Datblygiad Busnes
Ni all busnesau aros yn eu hunfan, mae angen iddynt ddysgu, gwella, addasu a datblygu’n barhaus i sicrhau eu cynaliadwyedd a’u llwyddiant eu hunain. P’un a yw sefydliad yn edrych i dyfu ac ehangu, i amrywio ei weithgareddau addasu i fodloni ffactorau mewnol ac allanol, mae sefydlu arferion busnes da yn allweddol i sicrhau ei ddatblygiad parhaus.
Bydd mabwysiadu arferion busnes cadarn yn helpu i sicrhau llwyddiant sefydliad, o ran ei gynaliadwyedd ariannol a’i enw da gyda chleientiaid, rhanddeiliaid ac arianwyr.
Fel mater o drefn bellach mae disgwyl i sefydliadau ddangos y canlynol:
- Gweledigaeth a chyfeiriad strategol clir
- Trefniadau llywodraethu cryf ac arweiniad clir
- Prosesau a systemau ariannol tryloyw ac agored
- Rheolaeth a thrywydd archwiliad cadarn
- Atebolrwydd clir
- Lefel ofynnol o gydymffurfedd rheoleiddio
- Ymgysylltu ac ymgynghori effeithiol gyda rhanddeiliaid a chleientiaid
Cyngor arbenigol
Yn Almair, gallwn weithio gyda’ch sefydliad i ddarparu cymorth busnes a chyngor arbenigol ar arferion busnes cadarn i’ch helpu i dyfu o ran gwytnwch ariannol a chynaliadwyedd ac i weithredu fel busnesau effeithiol a/neu fusnesau sy’n tyfu.
Gallwn helpu sefydliadau sy’n dechrau o’r newydd neu sy’n bodoli eisoes gyda:
- Threfniadau llywodraethu – sefydlu strwythurau cyfreithiol priodol a systemau llywodraethu cymesur
- Rheoli Ariannol – arbenigedd ariannol profiadol a chyngor proffesiynol arbenigol i’ch helpu i dynnu’r straen allan o reoli’ch cyllid
- Darparu offer rheoli i’ch helpu gyda chynllunio strategol a datblygu busnes cynaliadwy
- Cyngor ar Faterion ariannol yn cynnwys Cymorth Gwladwriaethol, caffael a grantiau Llywodraeth
Gellir gweld manylion pellach ar y cymorth penodol y gallwn ei ddarparu ar gyfer pob gweithgaredd drwy glicio ar y ddolen briodol.