Grantiau Llywodraeth

Materion
Ariannu


Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Mair: 07815 449750 neu anfonwch e-bost

Grantiau Llywodraeth

Mae arian cyhoeddus a Grantiau Llywodraeth yn parhau i chwarae rhan hanfodol mewn cefnogi sefydliadau o bob maint. Mae’r pwysau parhaus ar gyllidebau cyhoeddus fodd bynnag wedi arwain at fwy o gystadleuaeth hyd yn oed am arian o’r fath a mwy o ofyniad ar ymgeiswyr i gynhyrchu ceisiadau cadarn am arian a sicrhau bod ganddynt lywodraethu, systemau a gweithdrefnau priodol ar waith i gyflawni.

Gyda chraffu mwy ar geisiadau am arian, yn aml mae angen cynllun busnes yn seiliedig ar egwyddorion y model busnes 5 achos i ddangos yr angen am arian ac ystyriaeth briodol o ddewisiadau cyflenwi, arian a chydymffurfiaeth â rheoliadau cymorth Gwladwriaethol a chaffael. Mae pwyslais mwy hefyd ar sicrhau bod llywodraethu parhaus priodol a gallu rheoli ar gyfer prosiectau sy’n cael eu hariannu’n gyhoeddus, gyda gofynion manwl yn aml ar reoli ariannol, dyrannu costau, adrodd a thrywydd archwiliad.

Fodd bynnag, gall gwneud cais am gymorth cyhoeddus, llywio drwy’r ddrysfa cydymffurfiaeth a rheoli agweddau ariannol parhaus y prosiect fod yn drafferthus ac yn ddryslyd, yn arbennig i sefydliadau llai gydag adnoddau cyfyngedig.

Sut y gallwn ni helpu

shutterstock_75392512Mae gan ymgynghorwyr Almair brofiad sylweddol o weithredu’n uniongyrchol a chynghori ar gronfeydd strwythurol yr UE a chynlluniau ariannu eraill Llywodraeth, Awdurdod Lleol a Chenedlaethol. Gallwn helpu gyda phob agwedd ar geisiadau am arian a chyflawni prosiectau dilynol yn cynnwys:

  • Cynllunio a pharatoi prosiectau a cheisiadau am arian cyhoeddus i fodloni gofynion cymhwysedd
  • Datblygu cynlluniau busnes yn seiliedig ar egwyddorion y model busnes 5 achos
  • Modelu ariannol
  • Cyngor penodol ar sefyllfa cymorth Gwladwriaethol a chaffael cynigion
  • Datblygu systemau prosiect a gallu ariannol sefydliad i fodloni gofynion trywydd archwiliad, systemau rheoli ac adrodd yr ariannwr
  • Rheoli prosiectau parhaus a chymorth adrodd, yn cynnwys paratoi adroddiadau a hawliadau
  • Monitro a gwerthuso gweithgaredd prosiect

I gael ymgynghoriad cychwynnol a thrafodaeth rad ac am ddim ar sut y gallwn eich helpu, cysylltwch â Mair ar 07815 449750 neu e-bost mair@almair.co.uk.