Iechyd a Diogelwch
Mae’n amhosib i ni weithredu ar ein pennau ein hunain – mae unrhyw weithred neu weithgaredd yn effeithio ar bobl eraill.
Mae diogelu ein hiechyd a’n diogelwch ein hunain ac unrhyw un arall yr effeithir arnynt gan ein dull o redeg neu weithredu’n busnes a’n gweithgareddau, yn ddyletswydd foesol a chyfreithiol.
Ond, beth yw’r ffigyrau, a pham y dylem drafferthu o gwbl? Dyma rai ffigyrau gan y Gweithgor Iechyd a Diogelwch:
- Yn 2010/11 roedd 1.1 miliwn o weithwyr yn dioddef o salwch yn ymwneud â’r gwaith
- Lladdwyd 173 o weithwyr tra yn y gwaith (nid yw hyn yn cynnwys damweiniau ar y ffordd fawr)
- Adroddwyd am 111, 000 o anafiadau eraill drwy’r sustem RIDDOR
- 212,000 o anafiadau lle’r oedd y gweithiwr i ffwrdd o’r gwaith am fwy na 3 diwrnod (mae RIDDOR wedi ei newid i 7 diwrnod erbyn hyn)
- Collwyd 27 miliwn o ddiwrnodau o waith oherwydd anafiadau neu salwch yn deillio o’r gwaith
- Amcangyfrifir bod cost anafiadau yn y gweithle, a salwch oherwydd y gwaith yn £13.4 biliwn yn 2010/11
Gall goblygiadau damwain i weithiwr neu aelod o’r cyhoedd fod yn anferth; achos mewn llys sifil (yn golygu cost yswiriant yn codi); achos mewn llys barn yn golygu dirwyon sylweddol (does dim yswiriant ar gael ar gyfer hyn).
Hefyd, cyhoeddusrwydd gwael, colli enw da a statws. Gallwch o bosib golli aelod allweddol o’ch staff, sydd wedyn yn effeithio ar eich gallu i barhau gyda’ch gwaith.
Petai’r gwaetha yn digwydd, a bod un o’r gweithwyr (neu aelod o’r cyhoedd) yn dioddef anaf, neu’n mynd yn sâl oherwydd y gwaith, mae’n bwysig eich bod yn ceisio lleihau effaith y canlyniad ac yn cynnig amddiffyniad rhesymol. Gall hyn leihau tebygolrwydd, lefel ac effaith unrhyw achos sifil neu droseddol a gymerir yn eich erbyn.
Mae cwsmeriaid yn edrych fwyfwy am brawf o gydymffurfiad, a gall record lân o ran iechyd a diogelwch olygu’r gwahaniaeth rhwng ennill cytundeb a’i golli.
Does dim rhaid i iechyd a diogelwch fod yn gymhleth o gwbl, ac anelwn at ddarparu system wedi ei theilwra ar gyfer eich gweithgareddau a’ch lefel o risg. Dim mwy, ond yn bwysicach, dim llai na’r hyn sydd yn angenrheidiol.