Tîm

Tîm

Perchnogion Almair Cyf yw Alan a Mair Gwynant, dau sydd yn brofiadol iawn ar lefel uwch reolaeth, wedi gweithio mewn sefydliadau yn y sector gyhoeddus, y sector breifat, a’r trydydd sector. Gyda’r profiad ymarferol hyn, mae gan y ddau ddealltwriaeth o’r sialensiau a wynebir gan sefydliadau unigol, megis cwmnïau bach a chanolig, elusenau, a sefydliadau gwirfoddol. Mae ganddynt hefyd y gallu i uniaethu’n uniongyrchol gydag anghenion y busnesau a’u rheolwyr.

Mae pwysau amser ac adnoddau ar reolwyr yn golygu nad oes yn aml ddigon o oriau yn y dydd, a bod angen adnoddau ychwanegol a mewnbwn arbenigol achlysurol i ddelio gyda rhai materion.

Gallwn ddarparu’r gwasanaeth arbenigol hyn, wedi ei deilwra, ac yn bersonol i’ch anghenion chi.

Darperir cymorth ar faterion yn ymwneud â materion datblygu busnes a chyllid gan Mair Gwynant, tra bod Alan Gwynant yn cynnig cymorth gyda materion iechyd a diogelwch, a rheolaeth digwyddiadau.