Cymorth Strategol

Datblygiad
Busnes


Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Mair: 07815 449750 neu anfonwch e-bost

Cymorth Strategol

Er mwyn goroesi yn yr hinsawdd economaidd bresennol, rhaid i sefydliad allu ymateb i’r newidiadau sy’n digwydd yn yr amgylchedd y mae’n gweithredu ynddo. Gyda newidiadau sylweddol ar hyn o bryd yn effeithio ar wasanaethau cyhoeddus a sefydliadau trydydd sector, mae angen i gyrff llywodraethu a thimau rheoli feddwl yn strategol er mwyn ymateb yn briodol. Weithiau, bydd yr heriau a gyflwynir yn mynnu bod sefydliadau’n gwneud penderfyniadau anodd ynghylch eu rôl, eu swyddogaeth, eu gweithgareddau a’u gwasanaethau.

Mae’r broses reoli strategol yn ymwneud â chynllunio clir a gosod cyfeiriad ac amcanion i’r dyfodol, datblygu polisïau a chynlluniau a gweithredu newid. Mae’n canolbwyntio ar gynllunio tymor hirach yn hytrach nag ymateb i faterion o ddydd i ddydd.

Sut y gallwn ni helpu

Mae gwasanaethau cymorth strategol Almair wedi’u cynllunio i helpu timau rheoli o fewn busnesau bach a chanolig a sefydliadau trydydd sector mewn datblygu eu strategaethau ar gyfer y dyfodol yn llwyddiannus a rheoli newid yn briodol, drwy ddarparu arbenigedd ac adnoddau hyblyg i fodloni eich gofynion penodol.

Mae rheolwyr a chyfarwyddwyr yn aml yn brysur yn rheoli gweithredoedd sefydliad o ddydd i ddydd, gyda diffyg adnoddau ac amser cyfyngedig i ddatblygu cynlluniau strategol. Gallwn helpu drwy weithredu fel eich cyfaill beirniadol annibynnol, i adolygu eich sefydliad a rhoi her briodol i reolwyr a chyfarwyddwyr.

Mae’r gwasanaethau y gallwn eu darparu’n cynnwys:

  • Cynnal adolygiad strategol annibynnol (gan ddefnyddio offer priodol megis dadansoddiad SWOT a PESTLE, asesiadau risg, her ffrind beirniadol) i lywio datblygu cynlluniau strategol a gweithgareddau ar gyfer y dyfodol
  • Gwaith arfarnu dewis i gefnogi dewisiadau ar gyfer newid ac ailstrwythuro gweithgareddau
  • Datblygu offer rheoli risg i sicrhau ystyriaeth a rheoli parhaus ar risgiau
  • Cynllunio a chymorth i reoli newid
  • Datblygu systemau Ansawdd (megis y rhai sy’n ofynnol i fodloni nod ansawdd PQASSO sy’n cael eu mabwysiadu gan nifer o sefydliadau trydydd sector) i sicrhau safonau ansawdd priodol ar gyfer cyflawni yn y dyfodol

I gael ymgynghoriad cychwynnol a thrafodaeth rad ac am ddim ar sut y gallwn eich helpu, cysylltwch â Mair ar 07815 449750 neu e-bost mair@almair.co.uk